01248 410580
[email protected]
Edrychwch yn ôl yn fuan ar gyfer amseroedd yr perfformiadau
Diolch i’r holl berfformwyr, trefnwyr, gwirfoddolwyr, staff, mynychwyr a chefnogwyr am wneud pob gŵyl Folk on the Farm 2022 yn llwyddiant ysgubol. Hyfryd oedd gweld hen ffrindiau eto.
Diolch i Peter Simmons am y fideos gwych o’r ŵyl sydd i’w gweld ar y wefan hon.
Dewch ar daith yn ôl i’n gwyliau blaenorol ac ail-fyw’r perfformiadau.
Prynhawn GwenerGed the Poet Will Riding Penny Neale Martin Hibbert Neil Martin Martin Pleass Virginia Kettle |
Nos WenerThe Tyddyners The Three Buskateers The Skylarks Merry Hell |
Prynhawn SadwrnAllan and Corki John Harley & Sarah Cohen Braithwaite-Kilcoyne Hiroshima Twinkie |
Nos SadwrnDemdikes Cat Tapestri Truckstop Honeymoon The Duncan Mcfarlane Band |
Prynhawn SulCarrie Martin Louise Rogan Michell, Pfeiffer & Kulesh Cowbois Celtaidd |
Nos SulEdwina Hayes Wet the Tea The Endings Henry Priestman & Les Glover |
A Tribute To Drew
Blackbeards's Tea Party
Hugh Taylor
Ben Robertson
Running With Scissors
A D Cook Band
Corrie Shelley Band
Y Moniars
Emma & Paul
Southbound Attic Band
Folkle
Bill Bates & Friend
Skylarks
Run For Cover
Beaumont Brothers
Kate McCullough
Cobalt Tales
John Williams & Jo Pue
James J Turner
Henry Priestman & Les Glover
The Tyddyners
Bucketeers
Jon Palmer Band
Gaelforce
Karen Pfeiffer & Paul Walker
Spinning Wheel
Ukes Of Hazzard
Idiot & Friend
Alan & Jon
Tennessee Walz Proposal
Katie Spencer
Jackie Gaer
Skylarks & John Williams
Gareth Heesom
O'Hooley & Tidow
Jackel & The Widow Maker
Jackson Williams
Rory McLeod
Karin Grandal-Park & Ava Greenhall
Helô, Gyd-werinwyr, hipis a chyfeillion Folk on the Farm,
Mae Tyddyn Môn a minnau'n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu'n ôl i'r fferm elusennol ym Mrynrefail ar Ynys Môn ar gyfer Gŵyl Folk on the Farm ar yr 8fed, ar ôl ychydig flynyddoedd eithaf heriol, trist a rhwystredig.
Rwyf eisiau cynnig fy nghydymdeimlad dwys i unrhyw un sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Yn anffodus, bydd nifer ohonoch eisoes yn gwybod y bu farw un o aelodau sylfaenol yr ŵyl yn ystod y pandemig. Roedd Drew fel brawd i mi a Simmo, ac roedd yn gymeriad poblogaidd tu hwnt ymysg gwyliau. Mae ei golled i'w deimlo ledled y gymuned ŵyl werin. Bydd gŵyl Folk on the Farm 2022 yn hynod o emosiynol hebddo, ond rwy'n siŵr y bydd yno yn mwynhau gyda phawb mewn ysbryd!! Heb os, bydd sawl sgwrs a nifer o atgofion yn cael eu rhannu dros y penwythnos, ond fel y byddai Drew wedi dweud ei hun "Rhaid i'r sioe fynd yn ei blaen, awê!!"
Pleser yw cyhoeddi bod y rhan fwyaf o'r artistiaid a oedd wedi bwriadu chwarae yn 2020 wedi cytuno i chwarae eleni, ar wahân i ambell un. Cymerwch gip ar yr artistiaid sydd gennym ar y gweill i chi isod. Bydd y noson Gwerin ychwanegol ar nos Iau 7 Gorffennaf am 7pm, yn ogystal â'n cyngerdd brynhawn ddydd Gwener, yn cael eu cynnal yn y babell fawr yn y goedwig ar y fferm. Bydd y brif lwyfan a'r ŵyl yn dechrau'n swyddogol nos Wener, yn agor gyda'n Tyddyners ni ein hunain.
Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yr ŵyl yn amgylchedd sy'n rhydd rhag Covid, gyda threfn glanhau mwy trylwyr ac rydym yn gofyn i chithau chwarae eich rhan hefyd. Defnyddiwch y glanweithyddion dwylo a ddarperir wrth y fynedfa i bob lleoliad. Nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol yn ystod perfformiadau, ond mae croeso ichi wisgo un os ydych yn dymuno gwneud. Hefyd, mae nifer ohonom yn hoff o gofleidio yn y gymuned werin, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn caniatâd yr unigolyn yn gyntaf.
Yn olaf, diolch i chi am gefnogi'r ŵyl Folk on the Farm, a gadewch i ni fwynhau'r penwythnos.
Jon Hippy
Cyfarwyddwr Gŵyl
Diolch i'n noddwyr
W O JONES
Caprice Furniture and Flooring
Owen & Owen
Cymell Cyf
Adelphi Vaults, Amlwch Port
Pawson & Roberts M.B.E