English

Folk on the Farm

01248 410580
[email protected]

13 - 16 Gorffennaf 2023

Gŵyl Folk on the Farm

Diolch i’r holl berfformwyr, trefnwyr, gwirfoddolwyr, staff, mynychwyr a chefnogwyr am wneud pob gŵyl Folk on the Farm 2022 yn llwyddiant ysgubol. Hyfryd oedd gweld hen ffrindiau eto.

Mae tocynnau nawr yn fyw ar gyfer gŵyl 2023. Cofiwch gadw llygad ar ein tudalen Facebook am ddiweddariadau rheolaidd. Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn 2023.

Tocynnau

O ddechrau bach yn 2013 mae gwyl ‘Folk on the Farm’ wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel un o uchafbwyntiau y calendr gwyl gwerin, yn denu cannoedd o pobl bob blwyddyn ac yn cynnwys rhai o'r artistiaid gwerin gorau o bob cwr y DU.

Trefnir bob blwyddyn gan Tyddyn Môn, elusen sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, a Jon Hippy cyfarwyddwr yr ŵyl, defnyddir yr holl elw o'r ŵyl i gefnogi'r elusen a'i gweithgareddau.

Mae'r bandiau a fydd yn chwarae yn ystod yr gŵyl bellach wedi'i gyhoeddi, gwelwch tudalen yr wyl am restr lawn o berfformwyr a phrynwch eich tocynnau YMA.

Stiwardiaid

Rydym yn chwilio am stiwardiaid i'n cynorthwyo ni yng Ngŵyl Folk on the Farm eleni. Prif rôl ein stiwardiaid yw i sicrhau bod ein gwesteion yn cael brofiad diogel a pleserus.

Mae stiwardiaid yn darparu cymorth ymarferol gan helpu gyda phopeth o barcio a gwirio tocynnau i reoleiddio'r gwersyll a sefydlu'r llwyfan.

Gofynnir i stiwardiaid weithio rhwng 10 a 12 awr dros y penwythnos ar sail rota, yn gyfnewid byddant yn derbyn tocyn gwyl am ddim.

Os hoffech wneud cais i fod yn stiward eleni, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn dod yn ôl atoch gyda manylion pellach.

Darganfod mwy